Yn cael problemau wrth gyrchu ein gwefan? Cliciwch yma i weld ein datganiad hygyrchedd gwefan, , neu cliciwch yma i anfon e-bost atom a gallwn anfon copïau atoch o unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnoch
Croeso....
Y Cyngor Cymuned yw’r haen o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl ac mae yn cynnwys Cynghorwyr, mae'n gwneud penderfyniadau yn ei gyfanrwydd er budd y Gymuned, yn cynrychioli barn y cyngor hwnnw a byth yn siarad neu’n ymddwyn yn unigol.
Mae’r Clerc, a gyflogir gan y Cyngor, yn darparu’r gefnogaeth annibynnol, gwrthrychol a phroffesiynol mae’r Cyngor ei angen i wneud eu penderfyniadau i gael y fargen orau ac i weithio o fewn eu pwerau.
Mae’r Clerc yn delio â llawer o wasanaethau ar ran y Cyngor Cymuned:
- Goleuadau stryd ar lwybrau troed Lleol
- Cwynion ynghylch unrhyw faterion o fewn y gymuned
- Mynwent Rhosllannerchrugog, mae’r swyddfa’n dal y cofnodion claddu ar gyfer y fynwent o 1884.
- Gweinyddwr - gwaith arferol bob dydd heb fod yn rhy gyffrous
- Swyddog Disgyblu
- Swyddog/Personél AD - delio â gweithwyr, cyflogau, ffurflenni treth ac ati
- Swyddog cyfreithiol
- Rheoli Adeiladau/ Safle
- Swyddog cyllid - Archwilio, Praeseptau a chyfrifon misol, rhaid gallu cwrdd â therfynau amser, cadw ar ben o bethau.
- Heddychwr/cyfryngwr
- Cadwr cofnod/ cymerwr cofnodion, trefnwr cyfarfodydd a rhaglenni
- Swyddog Iechyd a Diogelwch/ Aseswr Risg - i allu ymateb i anghenion a gweithredu ar faterion yn ôl y gofyn
- Swyddog Cymunedol a swyddog cysylltiadau cyhoeddus - cynnal rheng flaen y Cyngor mewn modd proffesiynol a pharchus
- Gorymdeithiau Sul y Cofio
- Digwyddiadau'r Nadolig
- Prosiectau cymunedol - Cymru yn ei Blodau, prosiectau amgylcheddol gorau ac ati
- Cyngor Ieuenctid - yr unig gyngor ieuenctid yng Nghymru, mae hwn yn cynrychioli pob ysgol leol a phobl ifanc lleol sy'n mynychu ysgolion porthi, sy'n cyfarfod bob 2 fis i drafod y problemau y gall yr ieuenctid ei gael yn y gymuned ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor ddigwyddiadau a gweithgareddau'r ysgol. Mae aelodau'r Cyngor Ieuenctid yn ymweld ag Aelodau Seneddol yn Llundain ac Aelodau'r Cynulliad yng Nghaerdydd i ddysgu am wleidyddiaeth leol a sut y mae'n effeithio arnynt.
A llawer mwy o bethau a fydd yn codi o ddydd i ddydd.
Tu ôl i bob Clerc da mae Clerc Cynorthwyol da, sydd y cyswllt rheng flaen dros y ffôn a’r cyswllt personol o fewn y swyddfa.
Mae'r Cyngor Cymuned hefyd yn cyflogi 2 aelod o staff Mynwent, sy'n delio gyda'r gwaith o redeg y Fynwent o ddydd i ddydd dan oruchwyliaeth y Clerc. Chris Williams & Mike Gittins - Oriau Haf – Ebrill i Medi – sifft gyntaf 7.30am tan 2.30pm gydag egwyl cinio o ½ awr - 2il shifft 9:30am tan 4.30pm gyda ½ awr i ginio
Oriau gaeaf Hydref i Mawrth - 8:30am tan 3.30pm gyda ½ awr o egwyl i ginio, dydd Llun i ddydd Iau – byddai’n gorffen ½ awr yn gynt ar ddydd Gwener.
Mae'r staff yn gweithio'n rota 2 sifft yn yr haf i roi cymorth i'r rhai sy'n ymweld â'r Fynwent ac i wneud y gwaith hanfodol o gynnal y Fynwent i safon uchel iawn.